skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru
Digwyddiad Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg

Arty Parky - Digwyddiad

Diweddariad diwethaf: 14/10/2022
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Ydych chi’n edrych am rywbeth i’ch teulu ei wneud yn ystod hanner tymor? Mae’r ateb gan Celf ar y Blaen: chwiliwch am eich esgidiau glaw, gwisgwch amdanoch yn cynnes ac ymunwch ag Arty Parky.

Yn ystod Arty Parky caiff teuluoedd eu gwahodd i chwilio am ddeunyddiau naturiol yn y parc, tebyg i ddail wedi cwympo, brigau, moch coed a hadau a’u defnyddio i addurno darluniau tir enfawr. Mae’n gyfle perffaith i fod yn greadigol yn yr awyr agored!

Addasir ychydig bach ar y digwyddiadau i wneud yn siŵr y gall pawb sy’n cymryd rhan gadw pellter cymdeithasol a chadw’n ddiogel tra’n helpu i reu gweithiau celf ysblennydd yn yr awyr agored.

“Arti Parci” ym Mharc Cyfarthfa fel rhan o ‘Diwrnod Shwme Su’mae” Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Bydd y digwyddiad yn ddwyieithog gyda chyfle i bobl ddefnyddio eu sgiliau yn y Gymraeg. Mae croeso hefyd i bawb sy’n cymryd rhan yn y digwyddiadau eraill i ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg.