skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru
Hamdden

Live Fit Wales - LiveFit 30 Cardio (Mercher 6.30yb) ZOOM - Hamdden

Diweddariad diwethaf: 02/02/2023
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Cyflwynir dosbarthiadau yn fyw trwy ZOOM. Sesiwn cardio
Mae croeso i bob lefel ffitrwydd, pob lliw a llun. Ymunwch â ni ar-lein.

Yma yn LiveFIT Wales/Cymru, rydyn ni'n deall pwysigrwydd y gymuned. 5 mlynedd yn ôl fe ddechreuon ni gynnal dosbarthiadau ein hunain ar draws canolfannau a neuaddau cymunedol ym Mro Morgannwg, ac fe adeiladom ddilyniant lleol ffantastig. Wnaethon ni weithio yn y gymuned, i'r gymuned yn helpu gwella iechyd a ffitrwydd ein LiveFITTERS. Yn 2020 pan fwrodd bandemig Covid19, aethom ar-lein yn syth. Gydag ansawdd darlledu uchel i gartrefi ein LiveFITTERS, fe welsom gleientiaid yn ymuno gyda ni o bob cwr o Gymru ac ar draws y DU - wrth fod ar-lein doedd dim cyfyngiadau daearyddol! O ganlyniad, rydym wedi gallu helpu mwy o bobl nag erioed i gadw'n iach ac yn ffit o adref. Nid oes unrhyw gyfyngderau nawr i ni allu eich helpu CHI ennill eich potensial iechyd llawn! Rydyn ni'n awyddus iawn i'ch helpu chi sylweddoli ei fod yn #brafbywbywyd