skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru
Digwyddiad Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg

Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf - 2 Rhagfyr 2023 - Digwyddiad

Diweddariad diwethaf: 03/11/2023
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf yng Nghaerffili yw’r lle perffaith i chi deimlo ysbryd y Nadolig. Profwch olygfeydd, seiniau ac arogleuon y dref a’r castell wrth baratoi ar gyfer y Nadolig, gyda bwyd stryd blasus, arogl gwin brwd, theatr stryd gyffrous a dros 60 o stondinau bwyd, crefft a rhoddion, gan gynnwys atyniadau ffair i ddiddanu’r holl deulu!
Yn rhan o’r digwyddad hudolus hwn mae’r Orymdaith Lusernau Afon y Goleuni sy’n dechrau am 6.30pm ac yn gorffen gydag Arddangosfa Tân Gwyllt am 7.15pm!
Wrth ymweld â Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf yng Nghaerffili, cofiwch fynd i’r Farchnad Ffermwyr boblogaidd yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn, Ffair Grefftau Crafty Legs wrth y Senotaff, a Marchnad Crefft a Bwyd Cwrt y Castell yng Nghanolfan Siopa Cwrt y Castell. Mae’r holl farchnadoedd hyn yn ategu Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Caerffili, a’r cymysgedd o siopau annibynnol a siopau’r stryd fawr sydd yn y dref.
Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM! Mae ffioedd mynediad arferol yn berthnasol i’r castell.