skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru
Digwyddiad Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg

Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf Bargod - 9 Rhagfyr 2023 - Digwyddiad

Diweddariad diwethaf: 06/11/2023
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol, yma.
Bydd Bargod yn dod yn fyw ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr, wrth i’r dref gynnal ei ffair Nadoligaidd flynyddol.

Bydd stondinau Nadoligaidd, adloniant a reidiau ffair yn dod â’r fflach Nadoligaidd ychwanegol hwnnw i’r dref, gan gynnig gwledd go iawn i drigolion lleol.

Bydd Cyngor Tref Bargod yn cynorthwyo’r digwyddiad gydag ymddangosiad gan Siôn Corn ac ychydig o adloniant Nadoligaidd hwyliog.

Mae gan ganol tref Bargod ystod fendigedig o siopau annibynnol a brandiau’r stryd fawr hefyd, sy’n rhoi cyfle i chi ddechrau ar eich siopa Nadolig. Profwch dref fach sydd â llawer i’w gynnig!

Mae Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf ym Margod AM DDIM!