Browsealoud - help i ddarllen ein gwefan. Mwy o wybodaeth…
Cael dewis a chymryd rheolaeth
🏖️Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Tref Coed Duon yn falch o gyhoeddi bod Parti Traeth Coed Duon yn dod i’r dref! Ddydd Sadwrn 28 Mehefin, bydd y Stryd Fawr, Coed Duon, NP12 1AH, yn cael ei thrawsnewid yn barti traeth trefol gyda digonedd o dywod, cadeiriau cynfas, a bwcedi a rhawiau i ddiddanu’r teulu cyfan. Bydd nifer fawr o reidiau ffair yn dod â bywyd i un pen y Stryd Fawr, a bydd stondinau, atyniadau a thraeth anferth yn y pen arall! Bydd Cyngor Tref Coed Duon hefyd yn trefnu prif lwyfan gyda rhaglen adloniant lawn drwy’r dydd, a fydd yn cynnwys cantorion, bandiau a dawnswyr lleol.Bydd canol tref Coed Duon yn ferw o brysurdeb, gan roi hwb i nifer yr ymwelwyr â’r manwerthwyr a lleoliadau lletygarwch lleol, felly, cofiwch roi’r dyddiad yn y dyddiadur!Cyngor Tref Coed Duon sy’n ariannu’r digwyddiad, a Thîm Digwyddiadau Caerffili sy’n ei drefnu.
Pawb
Nac oes
Am ddim
High StreetBlackwoodCaerffiliNP12 1AH
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru