skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Ble Mae’r Dail yn Hedfan - Digwyddiad

Diweddariad diwethaf: 06/06/2024
Digwyddiad Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Cynhyrchiad newydd o un o glasuron Arad Goch! Mae BLE MAE’R DAIL YN HEDFAN yn ddrama ryngweithiol i blant bach 3-9 oed a’u teuluoedd (gall plant iau ddod gyda’r teuluoedd hefyd) sydd yn cynnwys rhai elfennau o Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gan ddechrau y tu allan, neu yng nghyntedd y theatr/neuadd, mae’r gynulleidfa yn symud i ofod caeëdig, tawel a diogel ble maen nhw’n helpu’r cymeriadau i greu cartref newydd gyda deunyddiau naturiol – dail, brigau a pren.

Mae’n ddrama hwyliog a cherddorol, weithiau’n ddoniol a dro arall yn ymdrin ag emosiynau plant, gyda themâu am gyfeillgarwch, cydweithio a gofal – gan annog y plant i fynd ati i fod yn greadigol yn eu ffordd eu hunain.

Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.storiel.cymru/

Arianwyd trwy gronfa Ffyniant Bro