skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Paned a Sgwrs - Awtistiaeth a'r Model Anabledd Cymdeithasol gyda Alex Swift - Digwyddiad

Diweddariad diwethaf: 05/07/2024
Digwyddiad Gall yr adnodd yma defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Sesiwn fydd yn herio tybiaethau am awtistiaeth a chynnig ffordd arall o feddwl am anabledd!

Ail-Ddiffinio ein bywydau: Tua Dealltwriaeth Gymdeithasol o Niwroamrywiaeth
Bydd y sesiwn hon yn egluro sut mae’r ffordd yr ydym yn diffinio awtistiaeth yn ffurfio ein dealltwriaeth o’r cyflwr fel cymdeithas.

Gan ddefnyddio ei brofiad bywyd o ddod i ddeall ei awtistiaeth, asesiadau a diffinio’r cyflwr ar ei delerau ei hun, mae Alex yn eiriolydd cryf ar gyfer Model Anabledd Cymdeithasol.

Yn ystod y sesiwn bydd Alex hefyd yn cynnal arbrawf, gan ddisgrifio nodweddion “niwronodweddiadol” yn yr un ffordd ag y mae nodweddion awtistiaeth yn cael eu cyflwyno gan y cyfryngau, fel ffordd o amlygu pwysigrwydd defnydd iaith wrth ymdrin a’r pwnc.

Felly, os hoffech chi ddysgu mwy am Awtistiaeth a’r Model Anabledd Cymdeithasol, cofrestrwch trwy ddilyn y ddolen