skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gwirfoddoli yn Ultra-Trail Snowdonia gan UTMB - Digwyddiad

Diweddariad diwethaf: 14/10/2024
Digwyddiad Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Yn dathlu ei seithfed flwyddyn yn 2025, mae Ultra-Trail Snowdonia-Eryri gan UTMB yn dychwelyd i ogledd Cymru ym mis Mai.
Fe’i cynhelir ddydd Gwener 16 Mai, dydd Sadwrn 17 Mai, a dydd Sul, 18 Mai 2025. UTS yw ateb y DU i'r marathonau wltra mynydd mawr a geir mewn mannau eraill yn Ewrop ac mae'n rhan o Gyfres y Byd UTMB. Yr hyn sy'n gwneud UTS mor unigryw yw ei lwybrau mynyddig o bedwar pellter, sy’n amrywio o 25km i 100 milltir. Mae'r holl lwybrau rasio yn dechrau yn Llanberis ac yn cynnig taith fawreddog o fynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri, gan ddilyn copaon a llwybrau mwyaf nodedig yr ardal.  
Mae'r tîm y tu ôl i UTS yn anelu at recriwtio 300 o wirfoddolwyr i helpu i gyflwyno'r digwyddiad arddangos byd-eang hwn a darparu profiad unigryw i'r 3,000 o gyfranogwyr.