skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Academi Gofal Gwynedd

Diweddariad diwethaf: 02/12/2025
Rhywbeth arall Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Os am ddod draw am flas o weithio yn y sector Gofal neu os angen cymorth i gyrraedd eich swydd ddelfrydol gall yr Academi Gofal eich helpu.
O brofiad gwaith, gwirfoddoli, swyddi Gofal ar lefel 2/3 i hyfforddeion Gweithwyr Cymdeithasol a Therapyddion Galwedigaethol, mae gennym amrywiaeth eang o wahanol opsiynau ar gael er mwyn eich arwain a chynghori wrth i chi ddewis eich gyrfa.
Mae’r cynllun yn gyfle unigryw i unrhyw un ddatblygu gyrfa yn y sector Gofal yng Nghyngor Gwynedd. Byddwch yn derbyn profiadau ymarferol ac yn cael amryw o gyfleoedd i ddatblygu drwy gael eich mentora gan arbenigwyr yn y maes. Bydd cyfleoedd datblygu parhaus ar gael i chi gael meithrin a datblygu eich sgiliau i sicrhau gyrfa hir a llwyddiannus o fewn gwasanaethau Gofal Cyngor Gwynedd. 

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.