skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Partneriaeth Ogwen

Diweddariad diwethaf: 02/12/2025
Cysylltwyr cymunedol / gwasanaeth rhagnodi cymdeithasol Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Menter gymdeithasol sy’n gweithio er budd economi, amgylchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen.

Fel menter gymunedol rydym yn;

Darparu gwasanaeth clercio i gynghorau cymuned yr ardal
Datblygu prosiectau adfywio cymunedol, economaidd ac amgylcheddol
Rheoli eiddo a datblygu prosiectau trosglwyddo asedau cymunedol
Cefnogi prosiectau sy’n creu cymuned iach, bywiog a chynaladwy

Sefydlwyd Partneriaeth Ogwen yn 2013, a hynny trwy gydweithio arloesol gan Gynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai i ddarparu gwasanaeth clercio i’r 3 chyngor ac i ddatblygu prosiectau cymunedol.

Ers ein sefydlu, rydym wedi agor Swyddfa Ogwen a Siop Ogwen ar Stryd Fawr Bethesda, rheoli eiddo yn cynnwys fflatiau, busnesau a Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen. Rydym hefyd wedi datblygu prosiectau amgylcheddol llwyddiannus yn cynnwys sefydlu cynllun hydro cymunedol Ynni Ogwen.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.