Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Rydym yn cefnogi pobl sydd dros 18 oed sy’n byw ym Mro Morgannwg.
Ein nod yw:
• Gweithio gyda chi i ystyried beth sy'n bwysig i chi. Byddwn yn asesu eich gallu a'ch hyder i weld pa gymorth sydd ei angen arnoch a darparu'r maint cywir o ofal a chymorth i'ch galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau dyddiol sy'n bwysig i chi.
• Eich annog i wneud cymaint ag y gallwch i chi'ch hun i ddatblygu eich cryfder a'ch sgiliau h.y. gwneud pethau gyda yn hytrach nag i chi er mwyn adennill eich annibyniaeth.
Mathau o weithgareddau y gall VCRS eich cefnogi gyda nhw: ailalluogi, adsefydlu ac adferiad i gynyddu eich iechyd corfforol, gofal personol a gofal ymataliaeth, paratoi prydau bwyd, siopa, gwaith tŷ, golchi dillad, rheoli eich meddyginiaeth, gwella eich lles, eich cysylltu â'ch cymuned a'ch cyfeirio at gymorth arbenigol.