Hygyrchedd
Mae gwefan Dewis Cymru am ofalu – cyhyd ag y bo modd rhesymol – y bydd gwybodaeth a chynghorion ar gael i bobl ar ffurfiau sy’n diwallu eu hanghenion penodol. I’r perwyl hwnnw, rydyn ni wedi:
- cynnwys adborth a ddaeth trwy gwmni buddiannau cymunedol Barod a gynhaliodd seminarau lle gallai pobl ddefnyddio’r wefan a mynegi barn am ffyrdd o’i gwella;
- mireinio’r wefan yn ôl argymhellion Ymddiriedolaeth Shaw a ystyriodd pa mor hawdd y gallai pobl anabl ei defnyddio;
- cynnwys Iaith Arwyddion Prydain a chynnwys hawdd eu darlleni esbonio beth yw gwefan Dewis Cymru a sut mae’i defnyddio; a
- gosod meddalwedd technoleg gynorthwyol ‘Browsealoud’ sy’n troi testun yn lleferydd mewn sawl iaith;

Mae croeso ichi gyflwyno sylwadau am wella’r wefan trwy fotwm ‘Cysylltu â ni’ ar waelod ein tudalen hafan.