skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru
 

Croeso i wefan Dewis Cymru

Tudalen hawdd ei deall yw hon. Mae’n dweud wrthych chi beth yw Dewis Cymru a sut i’w defnyddio.

 

Ynglŷn â Dewis Cymru

Gwefan yw Dewis Cymru sydd â llawer o gyngor a gwybodaeth am les.

Mae ganddi wybodaeth am bobl a gwasanaethau a allai eich helpu yn eich ardal leol.

Os oes arnoch chi eisiau dod o hyd i rywbeth sy’n ymwneud â lles, dyma’r lle i fod!

Pan fyddwn ni’n siarad am les, byddwn yn siarad am bethau fel:

  • eich iechyd

  • y lle rydych chi’n byw

  • pa mor ddiogel rydych chi’n teimlo

  • mynd allan

  • cael teulu a ffrindiau.

 

Mae lles yn meddwl bod person yn hapus, yn iach ac yn hoffi ei fywyd a’r pethau mae’n ei wneud.

Mae lles yn wahanol i bawb. Felly gall y wefan hon eich helpu i gael gwybodaeth am y pethau sy’n bwysig i chi!

Mae gennym ni wybodaeth all eich helpu i benderfynu beth sy’n bwysig i chi.

Mae gennym ni wybodaeth am bobl a gwasanaethau sy’n agos atoch chi all eich helpu chi.