skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Angen cymorth i ddarllen neu wrando ar Dewis Cymru?


Ynghylch Browsealoud

Cychwyn gyda Browsealoud

Cael Browsealoud i ddarllen y safle i mi

Defnyddio Browsealoud i gyfieithu Dewis Cymru i iaith arall

Defnyddio Browsealoud i ddarllen i chi mewn iaith arall

Defnyddio Browsealoud i wneud Dewis Cymru yn haws i’w ddarllen

Gwybodaeth bellach

Geirfa


Browsealoud

Ynghylch Browsealoud

Fel rhan o'm hymrwymiad i wneud Dewis Cymru mor hygyrch ag y gallwn ni, rydym ni wedi ychwanegu rhywbeth o'r enw Browsealoud, sy'n helpu pobl sydd efallai’n ei chael yn anodd darllen yr wybodaeth ar Dewis Cymru. Gallai hyn gynnwys pobl â dyslecsia, pobl ag anawsterau llythrennedd, pobl ag iaith gyntaf heblaw Saesneg, neu bobl â mân nam ar eu golwg.

Mae gan Browsealoud lawer o swyddogaethau defnyddiol i'w gwneud yn haws i ddefnyddio Dewis Cymru, ond y pethau pwysicaf mae'n gallu ei wneud yw:

  • Mae'n gallu darllen y wefan i chi, mewn mwy na 30 o ieithoedd gwahanol;
  • Mae'n gallu cyfieithu'r wefan i fwy na 70 o ieithoedd; ac
  • Mae'n gweithio ar ffonau clyfar, llechi, PCs a Macs.

Cychwyn gyda Browsealoud

I agor Browsealoud, cliciwch ar y symbol oren, sy'n ymddangos ar ochr dde brig pob tudalen:

Browse01

Pan fyddwch chi'n clicio arno fe, mae dewislen lwyd gyda mwy o symbolau'n ymddangos, fel hyn:

Browse02

Browse03

Mae'r holl bethau mae Browsealoud yn gallu ei wneud yn cael eu rheoli gan y symbolau hyn.

Cael Browsealoud i ddarllen y safle i mi

Mae Browsealoud yn darllen cynnwys y wefan yn uchel mewn llais ansawdd uchel, sy'n swnio fel llais dynol.

Ni waeth pa dudalen y wefan rydych chi arni hi, mae ond angen clicio ar y bys pwyntio sydd yn y ddewislen lwyd, a bydd Browsealoud yn dechrau darllen y dudalen yna i chi, a bydd yn amlygu'r testun mae’n ei ddarllen.

Fel hyn:

Browse04

Neu, os yw'n well gennych chi, gallwch chi ddefnyddio pwyntiwr eich llygoden i amlygu rhywfaint o'r testun, yna cliciwch ar y triongl a bydd Browsealoud yn darllen y darn yna yn unig.

Browse05

Hefyd gallwch chi ddweud wrth Browsealoud i ddangos y testun mae’n ei ddarllen mewn ffont mwy o faint: mae ond angen clicio ar y chwyddwydr gyda'r llythyren 'A' yn y canol:

Browse06

Yna mae'r frawddeg sy'n cael ei ddarllen yn uchel yn ymddangos ar frig y sgrin fel hyn:

Browse07

Cysylltiadau â gwefannau eraill

Mae Dewis Cymru yn cynnwys llawer o gysylltiadau â gwefannau eraill, i helpu pobl i ddod o hyd i'r wybodaeth mae arnyn nhw ei hangen mor rhwydd â phosibl. Fodd bynnag, os ydych chi'n defnyddio Dewis Cymru gyda Browsealoud ac rydych chi'n defnyddio cysylltiad i fynd i wefan arall, ni fydd Browsealoud yn gallu cyfieithu neu ddarllen y wefan yna i chi.

Defnyddio Browsealoud i gyfieithu Dewis Cymru i iaith arall

Os ydych chi eisiau darllen Dewis Cymru mewn iaith wahanol, cliciwch ar logo planed y Ddaear a dewiswch yr iaith rydych chi ei heisiau. Mae mwy na 70 i ddewis o'u plith!

Browse08

Pan symudwch chi i dudalen wahanol, mae'n bosibl y bydd yr iaith yn mynd yn ôl i Saesneg i ddechrau. Ond bydd Browsealoud yn ei gyfieithu i iaith eich dewis o fewn eiliadau!

Defnyddio Browsealoud i ddarllen i chi mewn iaith arall

Mae Browsealoud yn gallu cyfieithu testun i fwy na 70 o ieithoedd eraill. Am fwy na 30 o'r rhain, mae Browsealoud yn gallu darllen y testun cyfieithiedig i chi hefyd! Dewiswch yr iaith rydych chi ei heisiau a dilynwch y cyfarwyddiadau manwl yn 'Cael Browsealoud i ddarllen y safle i mi'.

Mae cyfieithiadau Browsealoud ar gael mewn nifer o ieithoedd fel a dangosir isod.

Cyfieithu gyda’r llais yn ogystal

Saesneg

Afrikaans

Arabeg

Tsieinëeg

Czech

Iseldireg

Ffineg

Ffrang Canada

Ffrangeg

Almaeneg

Groeg

Hwngareg

Indoneseg

Eidaleg

Siapanïeg

Korean

Norwyeg

Pwyleg

Brasileg

Portwgaeg

Rwmaneg

Rwsieg

Slofaceg

Sbaeneg Basg

Sbaeneg Catalan

Sbaeneg Colombeg

Sbaeneg Galicia

Sbaeneg Ewropeaidd

Sbaeneg Mecsico

Swedeg

Thai

Twrceg

Cymraeg

Cyfieithu yn unig

Albaneg

Armeneg

Azerbaijaneg

Belarwsieg

Bengali

Bosneg

Bwlgareg

Cebuano

Croatian

Daneg

Esperanto

Estoneg

Filipino

Georgian

Gujarati

Haiteg

Hebraeg

Hindi

Hmong

Iaith Gwlad yr Iâ

Gwyddeleg

Jafaneg

Kannada

Khmer

Lao

Lladinn

Latvieg

Lithwaneg

Macedoneg

Malay

Malteg

Marathi

Perseg

Serbeg

Slofeneg

Swahili

Tamil

Telugu

Ukraneg

Wrdw

Fietnameg

Yiddeg

Defnyddio Browsealoud i wneud Dewis Cymru yn haws i'w ddarllen

Rydyn ni wedi gweithio'n galed i wneud golwg Dewis Cymru mor syml a rhydd rhag annibendod ag y gallwn ni. Ond rydyn ni'n deall y bydd yn dal i ymddangos ychydig yn rhy brysur i rai pobl. Felly mae gan Browsealoud ddau offeryn sy'n gallu helpu.

Bydd 'Screenmask' yn amlygu’r testun rydych chi’n ei ddarllen drwy wneud gweddill y dudalen yn dywyllach. Cliciwch ar ddolen ‘screenmask’:

Browse09

Yna gallwch chi symud pwyntiwr eich llygoden i lawr i sgrin a bydd yn gwneud i'r darn rydych chi’n ei ddarllen sefyll allan yn fwy.

Browse10

Os nad ydy hyn yn helpu, gallwch chi roi cynnig ar 'symleiddio' hefyd.

Browse11

Mae hyn yn tynnu’r holl graffeg, lluniau, a lliw, fel y byddwch chi'n gweld dim ond y geiriau, mewn du a gwyn.

Browse12

Gallwch chi newid lliw y testun neu gynyddu maint y testun fel ei fod yn haws i’w ddarllen.

Browse13

Gwybodaeth bellach

Mae'r canlalwiau hyn wedi cael eu cynhyrchu gan Dîm Dewis Cymru, ac yn ceisio rhoi cyfarwyddiadau syml am sut i ddefnyddio prif nodweddion Dewis Cymru.

Am ragor o wybodaeth neu arweiniad manwl, cysylltwch â Browsealoud:

Gwe: www.browsealoud.com/uk/support

E-Bost: support@browsealoud.com

Ffôn: 0800 328 7910

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am Dewis Cymru ewch i 'Ynghylch Dewis' neu os oes gennych chi gwestiwn, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r botwm 'Cysylltu â ni' ar y dudalen hafan.

Geirfa

Cyfieithiad gyda llais

Iaith

Ei harddangos ar y sgrîn

Arabeg

العربية

Sbaeneg Gwlad Basg

euskara

Portwgaleg Brasil

Português

Sbaeneg Catalan

català

Tseinïeg (Wedi symleiddio)

中文

Colombeg (Sbaeneg)

Español

Tsiec

český jazyk

Iseldireg

Nederlands

Saesneg AU

English AU

Saesneg CY

English CY

Saesneg IE

English IE

Saesneg IN

English IN

Saesneg SC

English SC

Saesneg UK

English UK

Saesneg US

English US

Saesneg/Afrikaans

Afrikaans

Ffrangeg Ewropeaidd

Français

Sbaeneg Ewropeaidd

Español

Finneg

Suomi

Ffrangeg Canada

Français

Sbaeneg Galicia

galego

Almaeneg

Deutsch

Groeg

ελληνικά

Hindi

हिन्दी

Hwngareg

magyar

Indoneseg

Indonesia

Eidaleg

Italiano

Siapanëeg

日本語

Korean

한국어

Sbaeneg Mecsico

Español

Norwyeg

Norsk

Pwyleg

Polski

Portwgaleg

Português

Romaneg

limba română

Rwsieg

русский язык

Slofaceg

slovenčina

Swedeg

Sverige

Thai

ไทย

Twrceg

Türkçe

Cymraeg

Cymraeg

Cyfieithiad yn unig

Iaith

Ei harddangos ar y sgrîn

Albaneg

shqipe

Armeneg

Հայերեն

Aserbaijaneg

azərbaycan dili

Belaruseg

беларуская мова

Bengaleg

বাংলা

Bosneg

bosanski jezik

Bwlgareg

български език

Cebuano

Cebuano

Chichewa

Chichewa

Croateg

hrvatski jezik

Daneg

Dansk

Esperanto

Esperanto

Estoneg

eesti

Filipino

Filipino

Georgeg

ქართული

Gwjarati

ગુજરાતી

Haiteg

Kreyòl ayisyen

Hausa

Harshen hausa

Hebraeg

עברית

Hmong

Hmong

Iaith Gwlad yr Iâ

Íslenska

Igbo

asụsụ Igbo

Gwyddeleg

Gaeilge

Jafaneg

base Jawa

Kannada

ಕನ್ನಡ

Kazakh

Қазақ

Khmer

ខ្មែរ

Lao

Lao

Lladin

latine

Latfeg

latviešu valoda

Lithwaneg

lietuvių kalba

Macedoneg

македонски јазик

Malagasy

Malagasy

Malay

bahasa Melayu

Malayalam

മലയാളം

Malteg

Malti

Maori

Maori

Marathi

मराठी

Mongoleg

Монгол

Nepali

नेपाली

Perseg

فارسی

Pwnjabi

ਪੰਜਾਬੀਦੇ

Serbeg

српски језик

Sesotho

Sesotho

Sinhala

සිංහල

Slofeneg

slovenski jezik

Somali

Soomaali

Swdaneg

Basa Sunda

Swahili

Kiswahili

Tajic

Тоҷикистон

Tamil

தமிழ்

Telugu

తెలుగు

Wcraneg

українська мова

Wrdw

اردو

Wsbec

O'zbek

Fietnameg

Tiếng Việt

Yiddeg

ייִדיש

Yorwba

Ede Yoruba

Swlw

isiZulu