Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae'r Tîm Cymorth Ieuenctid yn cyflwyno rhaglen o gymorth i bobl ifanc o oed cynradd, Blwyddyn 6 i 18 oed ar faterion pwysig y gallent fod yn eu profi.
Mae’r tîm hefyd yn cynnig “Rhaglen Gwytnwch” sydd ar gael trwy’r Ysgolion Uwchradd sy’n cynnwys:
Amrywiaeth o ymyraethau at angen y bobl ifanc o fewn amgylchedd grŵp. Bydd y sesiynau yn ffocysu ar:
• Rheoli Dicter
• Adeiladu Hyder a Goresgyn Pryder
• Cyfeillgarwch a Diogelwch ar y Rhyngrwyd
• 3 Sesiwn Perthynas Iach a gyflwynir mewn partneriaeth gyda Safer Merthyr Tydfil
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â youth.support@merthyr.gov.uk