skip to main content

Gwasanaeth Atal a Llesiant (PAWS) Castell-nedd Port Talbot - The Wallich - Tai

Diweddariad diwethaf: 10/03/2026
Tai Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Gwasanaeth Atal a Llesiant (PAWS) Castell-nedd Port Talbot ar gael i unrhyw un sydd angen cymorth sy'n gysylltiedig â thai - beth bynnag yw oed yr unigolyn, y math o denantiaeth neu'r lleoliad yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae ein pedair canolfan hefyd yn darparu rhagor o gymorth â materion iechyd a llesiant a mynediad at hyfforddiant, addysg neu gyfleoedd i wneud gwaith gwirfoddol.

Mae gweithwyr cymorth pwrpasol PAWS yn canolbwyntio ar yr atebion sydd eu hangen er mwyn galluogi unigolyn i fyw'n annibynnol ac yn gynaliadwy. Gallwn gynnig cymorth â'r canlynol:
- rheoli tenantiaeth
- dod o hyd i lety i'w rentu'n breifat
- materion ariannol a chyllidebu
- camddefnyddio sylweddau neu alcohol
- problemau iechyd corfforol neu iechyd meddwl
- hyfforddiant, addysg neu waith gwirfoddol

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth datrys gwrthdaro arbenigol i'r rhai sydd ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, anghydfodau teuluol neu landlordiaid sy'n gofyn am

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 18 oed a hŷn.

https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=17822