skip to main content

Cyngor a Chymorth I Deuluoedd Caerdydd - Fideos hunangymorth

Diweddariad diwethaf: 14/10/2025
Fideos hunangymorth Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd ar gael i deuluoedd, rhieni, plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd. Mae’r gwasanaeth yn ymgorffori:

Mae’r Porth i Deuluoedd yn fan cyswllt i unrhyw weithiwr proffesiynol, rhiant, plentyn neu berson ifanc i gael y wybodaeth, cyngor a chymorth sydd ei angen yng Nghaerdydd.

Helpu Teuluoedd - tîm o ymgynghorwyr cymorth i deuluoedd sy’n gysylltiedig â’r Porth i Deuluoedd a all weithio gyda theuluoedd yn y cartref ac yn y gymuned – gan gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth ar ystod o destunau.

Cymorth i Deuluoedd - Tîm o weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol yn cydweithio dros gyfnod hirach i ddod o hyd i’r ateb iawn i’r teulu. Bydd y tîm Cymorth i Deuluoedd yn gweithio â theuluoedd sy’n wynebu materion mwy cymhleth neu ddifrifol.

Rhianta 0-18 Caerdydd – Tîm o weithwyr rhianta proffesiynol a fydd yn gweithio gyda theuluoedd sydd angen cymorth rhianta i helpu i wella hyder rhianta, sgiliau, llesiant, gwydnwch a pherthnasau teuluoedd.

Gweld y fideo

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.

https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=18562