Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae'n benodol ar gyfer pobl ifanc (o 11 hyd at 21 mlwydd oed) sy'n byw yn Nhorfaen ac sy'n cymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon gwahanol. Bydd y rhai sy'n gymwys yn cael eu gosod o fewn pedwar categori:
- Wedi cynrychioli Cymru neu Brydain Fawr o fewn y 12 mis diwethaf a rhaid iddynt ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig/prawf gan eu Corff Llywodraethu Cenedlaethol (CRhC) perthnasol
- Wedi'i nodi i fod ar lwybr Olympaidd y Gymanwlad, Elitaidd, Rhyngwladol gyda thystiolaeth/prawf perthnasol gan y CRhC priodol. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn defnyddio eu disgresiwn wrth ystyried ceisiadau unigol.
- Wedi'i ddewis ar gyfer llwybr datblygu ar gyfer y gamp o'u dewis. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn defnyddio eu disgresiwn wrth ystyried ceisiadau unigol.