skip to main content

Canolfan Gelfyddydau Memo - Cyfleoedd Dydd i Oedolion

Diweddariad diwethaf: 28/04/2026
Cyfleoedd Dydd i Oedolion Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Canolfan Gelfyddydau Memo yw’r unig ganolfan gelfyddydau amlbwrpas a sinema ym Barri ac mae’n ganolfan fwyaf ym Mro Morgannwg. Mae rhaglen greadigol y ganolfan yn cynnal gwaith proffesiynol o’r safon uchaf – theatr, cerddoriaeth, dawns, digwyddiadau i blant, sinema, comedi, gweithdai ac unrhyw beth arall rhyngddynt. Rydym yn darparu adnoddau hanfodol i artistiaid, grwpiau cymunedol, busnesau ac unigolion i gyflwyno eu gweithgareddau creadigol, masnachol a phreifat.
Rydym yn dibynnu ar gefnogaeth llawer er mwyn sicrhau bod ein hincwm a enillir yn gallu cynnal ein gweithgareddau creadigol. Rydym yn gweithio gyda’r grŵp ehangaf o bartneriaid, artistiaid, ymarferwyr a defnyddwyr i gyflwyno, cefnogi a chryfhau ein cysylltiad â’n 105,000 o ymwelwyr blynyddol – ac mae bron i 10,000 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn ein rhaglen i bobl ifanc, a gyflwynir yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.

https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=2245