Darganfyddwch gymorth, gwasanaethau a gwybodaeth ger chi. Defnyddiwch y dewisiadau isod i fanylu'r chwiliad.
Yn ogystal â gallu benthyca llyfrau, mae ein holl lyfrgelloedd ledled Blaenau Gwent yn cynnig Wi-Fi AM DDIM, mynediad i gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd yn ogystal ag amrywiaeth o sesiynau addysgol i helpu cwsmeriaid i ddod i arfer â'r holl dechnolegau diweddaraf.Mae mynediad hefyd i e-lyfrau ac e-lyfrau sain AM DDIM trwy'r gwasanaeth BorrowBox. Mae miloedd o deitlau i ddewis ohonynt (i oedolion a phlant) a gallwch eu lawrlwytho 24/7 o unrhyw le yn uniongyrchol i'ch e-ddarllenydd, tabled neu ffôn clyfar.Mae amrywiaeth o adnoddau ar-lein ar gael am ddim, ar gael o'ch cartref neu'r llyfrgell. Rydym hefyd yn benthyca offer chwaraeon, offer casglu sbwriel ac yn cyflwyno sesiynau hanes teulu. Am fanylion gweler ein gwefan isod neu gofynnwch i aelod o staff.Rydym hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau am ddim, gweithgareddau i blant a sesiynau iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn. Gallwch hyd yn oed alw heibio a chasglu bagiau gwastraff bwyd a bagiau cŵn.
Rydym yn wasanaeth cwbl gynhwysol, sy'n agored i'r gymuned gyfan.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.
Mae'n dibynnu - Mae tâl bach am argraffu.
I ymuno â'r llyfrgell, dilynwch y ddolen https://aneurinleisure.org.uk/explore/libraries neu ffoniwch ni a gallwn ni lenwi'r ffurflen gofrestru gyda chi.
https://www.blaenaugwentlibraries.co.uk/
Tredegar LibraryThe CircleTredegarBlaenau GwentNP22 3PS
Os ydych yn meddwl dod i'n gweld, pam na ddefnyddiwch chi'r teclyn isod i helpu drefnu'ch ffordd atom?
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru