Darganfyddwch gymorth, gwasanaethau a gwybodaeth ger chi. Defnyddiwch y dewisiadau isod i fanylu'r chwiliad.
Mae Gypsies and Travellers Wales yn elusen fach a sefydlwyd ym 1981. Nod GTW yw cefnogi a galluogi Sipsiwn a Theithwyr i sicrhau ansawdd bywyd uchel a chynaliadwy, yn eu diwylliant eu hunain, trwy wella mynediad at dai addas, gwasanaethau cyhoeddus a sgiliau cyflogaeth. Rydym yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth helaeth i'r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghaerdydd yn ogystal â’r Cyngor a’r holl asiantaethau a sefydliadau perthnasol. Y prif feysydd gwaith yw bod yn bwynt cyswllt ar gyfer materion datblygu, rheoli a chynnal a chadw Safleoedd; digartrefedd; budd-daliadau llesiant, adolygiadau ac apeliadau; gwasanaethau addysg, iechyd, cymdeithasol a thai; a gwahaniaethu ar sail hil. Mae gennym hefyd brosiect cymorth tenantiaeth a phrosiect sgiliau a chymorth Cyflogaeth.
Sipsiwn a Theithwyr o unrhyw oedran
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.
Nac oes
Anyone can refer
http://www.gtwales.org.uk
Gypsies and Travellers WalesTrowbridge Community CentreCaernarvon WayCardiffCF3 1TN
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru