skip to main content

INFO Shop - Wrexham - Cyngor a gwybodaeth er lles cymdeithasol

Diweddariad diwethaf: 15/05/2026
Cyngor a gwybodaeth er lles cymdeithasol Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae’r Siop Wybodaeth yn cynnig gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor, Cymorth a Chefnogaeth cyffredinol i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ynglŷn ag unrhyw beth maent yn ei wynebu.

Mae ein gweithwyr ieuenctid yn cynnig lle preifat wedi’i deilwra ar gyfer pobl ifanc ac yn rhoi cyngor i’w galluogi i wneud penderfyniadau doeth ynglŷn ag unrhyw beth sy’n effeithio arnynt; mae’r help yn cynnwys:

Cwnsela
Cyngor ar dai a thrafod pryderon ynglŷn â mynd yn ddigartref.
Cefnogaeth â chyffuriau/alcohol
Trafferthion gyda pherthynas â’r teulu
Cyngor ar yrfaoedd
Materion LHDTC+
Problemau ariannol, cyngor ar ddyledion, cefnogaeth wrth hawlio budd-daliadau a cheisio am grantiau.
Mae’r Clinig Iechyd Rhywiol yn medru cynnig dulliau atal cenhedlu brys, mewnblaniadau, profion beichiogrwydd, condomau, chwistrelliadau Depo, tabledi atal cenhedlu, cyngor i bobl sy’n feichiog yn annisgwyl a phrofion ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl rhwng 11 oed a 25 oed.

Manylion y gwasanaeth cyngor a gwybodaeth lles cymdeithasol hwn:

Lles / Budd-daliadau Gwybodaeth
Cyflogaeth Gwybodaeth
Tai Gwybodaeth
Mewnfudo Gwybodaeth
Gwahaniaethu Gwybodaeth
Arian Gwybodaeth
Dyled Gwybodaeth
  • Ydy’r gwasanaeth hwn yn cynnig cyngor cwbl annibynnol? No
  • All y gwasanaeth hwn gynnig Gorchmynion Rhyddhad Rhag Dyled (DROs) trwy gyfryngwyr cymwys? No
  • Ydy’r gwasanaeth hwn yn dal nod ansawdd cydnabyddedig? Yes Y marc ansawdd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru - Aur
  • Ydy’r gwasanaeth hwn wedi cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)?  N/A
  • Ydy’r gwasanaeth hwn wedi cofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo (OISC)? No
https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=30136