skip to main content

Cyfeirio Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr

Diweddariad diwethaf: 26/08/2025
Cysylltwyr cymunedol / gwasanaeth rhagnodi cymdeithasol Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg Gall yr adnodd yma defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae ein gwasanaeth yn helpu pobl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’u teuluoedd neu ofalwyr, i gael mynediad at wasanaethau, gwybodaeth a gweithgareddau ar lefel gymunedol a fydd yn eu helpu i gynnal bywydau annibynnol sy’n helpu i atal eu hamgylchiadau rhag dirywio i bwynt lle gallai fod angen gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol lefel uwch arnynt.

Beth mae ein gwasanaeth yn ei wneud?
Derbyn ceisiadau o sefydliadau neu unigolion sy’n ceisio cael cefnogaeth gan gymunedau lleol a sefydliadau gwirfoddol;

Gweithio gydag unigolion i nodi eu hanghenion ac wedyn eu cefnogi i gael mynediad at wasanaethau neu weithgareddau cymunedol maen nhw’n teimlo sy’n iawn ar eu cyfer ac yn ceisio darparu’r wybodaeth hon ar gyswllt cyntaf gyda’r unigolyn i ‘wneud i bob cyswllt gyfrif’;

Helpu i adnabod anghenion neu fylchau yn y ddarpariaeth gwasanaeth, mae hyn yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth i hysbysu’r cynllun o wasanaethau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 18 oed a hŷn.

https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=30688