Darganfyddwch gymorth, gwasanaethau a gwybodaeth ger chi. Defnyddiwch y dewisiadau isod i fanylu'r chwiliad.
Mae hon yn daflen Hawdd ei Ddeall. Mae’r geiriau yn hawdd eu darllen a’u deall. Mae geiriau anodd mewn lliw trwm y tro cyntaf maen nhw’n cael eu defnyddio.Mae’r daflen yma am brawf llygaid i bobl gyda diabetes. Mae pobl 12 oed a throsodd gyda diabetes yn cael gwahoddiad i gael prawf llygaid.Mae pobl gyda diabetes yn gallu cael clefyd llygaid diabetig. Mae’r clefyd yma yn gallu eich gwneud yn ddall. Mae mynd am brawf llygaid diabetig yn gallu achub eich golwg.Mae’r daflen yma ar gael yn Saesneg.
Fe fydd pobl 12 oed a throsodd gyda diabetes yn cael llythyr i fynd am brawf llygaid.Fe fyddwch yn cael llythyr gwahoddiad bob blwyddyn.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.
Nac oes
Gall unrhywun defnyddio'r adnodd yma.
https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/sgrinio-llygaid-diabetig-cymru/adnoddau-gwybodaeth/adnoddau-hygyrch1/ffolder-fersiynau-hawdd-eu-deall-bsl-sain-a-fideos/am-eich-prawf-llygaid-diabetig-hawdd-ei-ddarllen/
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru