Darganfyddwch gymorth, gwasanaethau a gwybodaeth ger chi. Defnyddiwch y dewisiadau isod i fanylu'r chwiliad.
Mae hon yn daflen Hawdd ei Ddeall. Mae’r geiriau yn hawdd eu darllen a’u deall. Mae geiriau anodd mewn lliw trwm y tro cyntaf maen nhw’n cael eu defnyddio.Mae’r daflen yma am brawf iechyd i ddynion. Mae’r prawf yn edrych i weld bod eich aorta yn iach. Tiwb ydy eich aorta sydd yn cludo gwaed o gwmpas eich corff. Mae’r daflen yma yn dweud wrthych chi am fynd am sgan Ymlediad Aortig Abdomenol. Mae’n cael ei alw yn sgan YAA. Rydych chi’n fwy tebygol o gael YAA os ydych chi’n ddyn 65 oed neu hŷn. Mae’r daflen yma ar gael yn Saesneg.
Fe fydd dynion 65 oed yn cael llythyr i gael sgan YAA.Mae dynion dros 65 oed yn gallu gofyn am sgan YAA.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.
Nac oes
Gall unrhywun defnyddio'r adnodd yma
https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/cymru-iach-ar-waith/sgrinior-gig-yng-nghymru/sgrinio-ymlediadau-aortig-abdomenol-cymru/
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru