Pwy ydym ni'n eu cefnogi
•Teuluoedd – Rydym yn cefnogi y teulu cyfan, nid y teulu agos yn unig.
• Unigolion – Cefnogir unrhyw un yr effeithir arnynt gan farwolaeth sydyn plentyn neu berson ifanc yn ôl eu h’angen pan mae ganddynt angen ein cymorth.
•Gall ffrindiau, cydweithwyr ac unigolion a effeithir gan y golled gael mynediad i'n gwasanaethau ar unrhyw adeg.
• Tystion – Rydym yn cynnig cymorth i'r tystion hynny ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i brosesu eu profiad a'u teimladau o amgylch y farwolaeth.
• Gweithwyr Proffesiynol – Rydym yn darparu cymorth i unrhyw weithiwr proffesiynol sydd wedi ei effeithio gan farwolaeth sydyn ac annisgwyl plentyn neu berson ifanc.
• Marwolaethau hanesyddol – Nid oes amserlen ar brofedigaeth a cholled. Gall unrhyw un yr effeithir arno gan farwolaeth sydyn plentyn neu berson ifanc, hyd yn oed os digwyddodd y farwolaeth flynyddoedd lawer yn ôl, gael mynediad i'n cymorth a'n gwasanaethau.