Darganfyddwch gymorth, gwasanaethau a gwybodaeth ger chi. Defnyddiwch y dewisiadau isod i fanylu'r chwiliad.
Rydym yn wasanaeth cyfeillio, ac yn arbenigo mewn cefnogi pobl fregus a allai fod yn profi unigrwydd neu arwahanrwydd yn ein cymuned. Rydyn ni eisiau eich diweddaru am wasanaeth newydd y gallwn bellach ei gynnig i gefnogi pobl hŷn sy’n profi unigedd yng Ngwynedd, yn ardaloedd o gwmpas Bangor/Bethesda/Caernarfon – Prosiect Mynediad at y Gymuned Eryri Cydweithredol, a gefnogir gan Cronfa Gymenudol y Loteri Genedlaethol.Gallwn gynnig gwasanaeth rhad ac am ddim, cyfyngedig o ran amser. Cylch gorchwyl y gwasanaeth yw cefnogi unigolion yn ôl i'w cymunedau. Gall hyn gynnwys cael mynediad at weithgareddau / digwyddiadau cymunedol, gyda'n heb drafnidiaeth, teithiau siopa, gwasanaeth eistedd i ofalwyr anwyliaid â dementia, ymweliadau cartref i gwmni hy sgwrsio, gwaith tŷ ysgafn, agor llythyrau, trefnu apwyntiadau, tripiau dydd allan neu fynychu apwyntiad.
Unrhyw un dros 18 oed, sydd angen rhywfaint o gefnogaeth, cymorth, cwmni neu drafnidiaeth i'w helpu i gyflawni nodau i oresgyn unigrwydd neu unigedd.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 18 oed a hŷn.
Oes - Ar hyn o bryd mae angen talu am unrhyw wasanaethau sy'n cael eu darparu.
Gall unrhyw un gael mynediad i'r gwasanaeth hwn.
http://www.eryricoop.cymru
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru