skip to main content

Adullam Homes - Tai

Diweddariad diwethaf: 02/02/2026
Tai
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Adullam Homes Housing Association Limited yn ddarparwr arbenigol tai a gwasanaethau cymorth o safon. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus i gartrefu a/neu gefnogi 1,000 o bobl ar unrhyw un adeg yng Nghymru a Lloegr.
Mae dros 1,000 o bobl ar hyn o bryd yn cael tai a/neu gymorth gan brosiectau Adullam ledled y wlad.

Mae Adullam yn rhedeg amrywiaeth eang o wasanaethau mewn mwy nag 20 o leoliadau gan gynnwys Bolton, Birmingham, Chesterfield, Sir Ddinbych, Caerlŷr a Sheffield.

Yn ogystal â’r awdurdodau lleol y cawn ein contractio ganddynt, rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod eang o bartneriaid gan gynnwys grwpiau cymunedol, sefydliadau trydydd sector, a darparwyr tai eraill.

Mae Adullam yn cyflogi mwy na 200 o staff mewn ystod eang o rolau fel Cyfathrebu, Gofalwr, AD, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, a Chydlynydd Gwirfoddolwyr.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.

https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=34630