skip to main content

Canolfan Hamdden Y Bont-faen - Chwarae meddal - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Diweddariad diwethaf: 23/04/2026
Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Ydych chi’n chwilio am ffordd hwyliog a diogel i ddiddanu’r plant? Dewch draw i Ganolfan Hamdden Y Bont-faen ar gyfer ein sesiynau cyffrous chwarae meddal!

Mae ein sesiynau chwarae meddal yn cynnwys Castell Neidio a Sleid enfawr. Wedi’i gynllunio i hybu gweithgarwch corfforol a rhyngweithio cymdeithasol, mae ein hardal chwarae yn cynnig profiad diogel i blant 0-5 oed o bob gallu.

Mae ein sesiynau chwarae meddal yn cael eu goruchwylio gan staff sydd wedi cael ei hyfforddi, felly gallwch ymlacio gan wybod bod eich plant mewn dwylo da. Hefyd, mae gennym ardal wylio gyfforddus lle gallwch wylo'r plant yn chwarae.

Felly, os ydych yn chwilio am ddiwrnod hwyliog i’r teulu neu dim ond angen rhywle i’r plant ddefnyddio’u hegni, dewch i Ganolfan Hamdden Y Bont-faen ar gyfer ein sesiwn chwarae meddal. Gwelwch chi yna!



https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=35208