Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae’r adnodd hwn ar gyfer plant a theuluoedd yn y gymuned leol, gan gynnwys mamau newydd, rhieni a gofalwyr sy’n elwa ar gymorth cynhwysol sy’n seiliedig ar chwarae. Mae’n cefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), unigolion sy’n chwilio am lesiant a chysylltiad cymdeithasol, a theuluoedd sy’n wynebu rhwystrau i gael mynediad. Rydym hefyd yn cefnogi myfyrwyr coleg, gwirfoddolwyr a phobl ifanc drwy gyfleoedd dysgu ymarferol sy’n meithrin hyder, annibyniaeth a sgiliau bywyd.