Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae’r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn gweithio gyda phlant ac oedolion i gynnig asesiadau gweithredol i gefnogi pobl sydd ag anableddau a salwch cronig i barhau i fod yn annibynnol am gyhyd â bo modd ac i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw fel unigolion yn unol â’u canlyniadau lles.
Mae’r gwasanaeth yn gweithio’n agos iawn gyda darparwyr tai i sicrhau bod gan drigolion y mathau cywir o dai er mwyn iddynt fod mor annibynnol ag y gallant. Gall hyn gynnwys darparu addasiadau mawr i ddiwallu anghenion dynodedig fel ystafell wely neu ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod, lle nad yw atebion mwy syml fel lifft grisiau’n addas. Gallai hefyd gynnwys cefnogi unigolyn i symud i gartref sy’n fwy addas, un ai un sydd wedi’i addasu eisoes, neu hyd yn oed gartref newydd pwrpasol.
Rydym ni’n cefnogi trigolion sy’n dychwelyd gartref o’r ysbyty i barhau â’u taith ailalluogi, fel eu bod yn gallu meithrin eu sgiliau a pharhau i fod yn annibynnol.