Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae tai â chymorth Stori yn cynnig dull person cyfan o ymdrin â merched neu ddynion gyda phlant neu heb blant sydd wedi ffoi o gam-drin domestig ac sydd angen llety.
Roedd ein prosiect Cymorth Lle Bo’r Angen yn darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai i ddynion a merched agored i niwed gyda phlant neu heb blant.
Y nod yw galluogi pobl i gynnal a pharhau â thenantiaethau presennol a hyrwyddo llety newydd sy'n gynaliadwy yn ariannol.