Darganfyddwch gymorth, gwasanaethau a gwybodaeth ger chi. Defnyddiwch y dewisiadau isod i fanylu'r chwiliad.
Mae GISDA yn ceisio cyfrannu tuag at helpu pobl ifanc drwy weithio gyda nhw i ddatblygu sgiliau i fyw yn annibynnol, sgiliau cyflogadwyedd ac i ofalu am eu hiechyd meddwl a’u hunan werth. Mae’r gefnogaeth a gynigir yn cyfrannu tuag at gyrraedd targedau unigryw sydd wedi eu deilwra tuag at anghenion bob unigolyn. Drwy ein prosiectau a’r gefnogaeth therapiwtig, mae pobl ifanc yn dod yn fwy hyderus ac yn ennill y sgiliau angenrheidiol sydd angen arnynt i fyw yn annibynnol. Rhai o brosiectau GISDA yw cefnogi rhieni ifanc, codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd mewn ysgolion, adnabod a chefnogi pobl ifanc yn eu tai ac yn ein hosteli, hyfforddi a chynnig cefnogaeth i gynyddu sgiliau cyflogadwyedd. Mae ein Mentrau Cymdeithasol yn cynnig cyfleoedd pellach yn y byd gwaith megis CAFFI GISDA ar y Maes yng Nghaernarfon.
Ein nod yw darparu cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed ar draws Gwynedd.
Nac oes
Gall unrhyw un gysylltu â ni'n uniongyrchol.
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
https://www.gisda.org/cy/
Gisda Cyf22 Castle SquareCaernarfonGwyneddLL55 2NA
Os ydych yn meddwl dod i'n gweld, pam na ddefnyddiwch chi'r teclyn isod i helpu drefnu'ch ffordd atom?
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru