Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Yn aml mae pobl sydd ag anabledd dysgu angen cymorth i’w helpu i fynd allan a mwynhau bywyd. Ond beth ddylech chi ei wneud pan nad yw’r cymorth ar gael, neu – yn waeth fyth! – pan nad yw’r un sy’n rhoi cymorth i chi yn rhannu’ch diddordebau?
Byddwn yn dod o hyd i Ffrind Gigiau sy’n caru’r un pethau â chi. Felly gallai eich Ffrind Gigiau fod yn Ffrind Pêl-droed, yn Ffrind Ffilm, yn Ffrind Bowlio, yn Ffrind Crwydro, yn Ffrind Cwis, yn Ffrind Sglefr-rolio, yn Ffrind Syrffio. Eich lle chi yw dweud wrthym pa fath o Ffrind Gigiau rydych chi ei eisiau!
Mae Ffrindiau Gigiau yn hwyl fawr. Ond mae’n llawer mwy difrifol na hynny, Gall Ffrind Gigiau helpu gyda:
Unigrwydd ac arwahanrwydd
Iechyd a llesiant
Hyder
Annibyniaeth