Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Rydym yn cefnogi pobl ifanc Gwynedd rhwng 16 a 25 oed mewn rhanfwyaf o'r prosiectau sydd ganddo ni yma yn GISDA. Mewn rhai prosiectau rydym yn cefnogi pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed. Un prosiect sydd yn cynnig hyn ydi ein prosiect sydd yn cefnogi Iechyd Meddwl sef ICAN / FEDRA I. Rydym yn hwb ICAN sydd yn cefnogi mewn 3 lleoliad gwahanol sef Caernarfon, Pwllheli a Bangor. Yng Nghaernarfon a Pwllheli rydym yn cefnogi pobl ifanc 14 i 25 oed ac yn Maesgeirchen, Bangor, rydym yn cefnogi unigolion 14 oed i fyny sydd yn unigryw i'r prosiect a'r lleoliad hwn yn GISDA. Mae angen cyfeiriad ar gyfer pob prosiect GISDA, boed hyn yn dod drwy gwasanaeth / asiantaeth arall neu drwy gyfeirio eich hunain i brosiect drwy ebostio ni neu ffonio i fewn i holi am sut gallwn helpu chi.