Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Unrhywun
Grant gan Lywodraeth Cymru yw hwn i sefydliadau sy'n gweithio i helpu cymunedau a phobl yng Nghaerdydd. Mae'r grant yn caniatáu i sefydliad ddarparu nwyddau mislif i bobl o aelwydydd incwm isel.
Os gwnewch gais, bydd angen i chi ddangos i ni fod y grwpiau a'r gweithgareddau rydych yn eu rhedeg yn hawdd eu cyrchu ac yn hyrwyddo ffordd o fynd i'r afael â thlodi mislif.
Gallwch ddefnyddio'r arian i brynu a dosbarthu:
Nwyddau mislif, fel tamponau, padiau, cwpanau mislif, dillad isaf mislif amldro neu ddewisiadau amgen addas, bagiau gwaredu ar gyfer nwyddau mislif,
Pyrsiau storio neu fagiau gwlyb ar gyfer nwyddau amldro, a
weips gwlyb (dim ond i'w cynnig os yw rhywun oddi cartref a'u hangen at ddibenion hylendid)
Os ydych chi'n elusen sydd â diddordeb mewn gwneud cais neu eisiau mwy o wybodaeth am y cyllid, mae croeso i chi anfon e-bost at Grantiau'r Sector Gwirfoddol GrantiauSectorGwirfoddol@caerdydd.gov.uk