Darganfyddwch gymorth, gwasanaethau a gwybodaeth ger chi. Defnyddiwch y dewisiadau isod i fanylu'r chwiliad.
Dosbarthiadau gweithgarwch corfforol wedi'u lleoli yn y gymuned ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia, teulu, ffrindiau a gofalwyr. Pwrpas y dosbarthiadau yw rhoi cyfle i bobl fod yn egnïol, cael hwyl a chymryd rhan mewn grŵp cymunedol lle mae pawb yn deall ac yn cefnogi ei gilydd. Er bod y dosbarthiadau ar gyfer pobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia, maent hefyd yn hygyrch i bob oedolyn hŷn i helpu i leihau'r risg o ddementia. Mae pob dosbarth yn cael ei oruchwylio gan hyfforddwyr cymwys, gwybodus ac empathig sy'n sicrhau dosbarthiadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn hyblyg. Mae'r dosbarthiadau'n cynnwys ymarferion i wella cryfder, cydbwysedd a chydlynu i helpu gyda gweithgareddau bob dydd. Chwaraeon fel Tenis Bwrdd a Boccia, cerddoriaeth, canu a dawnsio. Gall pob gweithgaredd helpu i leihau gorbryder ac iselder, a gall gynyddu hyder, lles ac ansawdd bywyd cyfranogwyr. Mae pob dosbarth yn gorffen gyda'r cyfle i gael paned o de/coffi a sgwrs.
Pobl sy'n byw efo dementia, yn ogystal a teulu, ffrindiau a gofalwyr.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.
Oes - £3.00 Y Person.
Caiff unrhyw un gysylltu gyda ni yn uniongyrchol.
https://www.dementiaactifgwynedd.cymru/
Dementia Actif GwyndedCommunity Centre Blaenau FfestiniogCanolfan GymunedolBlaenau FfestiniogLL41 3UF
Dementia Actif GwyndedCommunity Centre Blaenau FfestiniogCanolfan GymunedolBlaenau FfestiniogGwyneddLL41 3UF
Os ydych yn meddwl dod i'n gweld, pam na ddefnyddiwch chi'r teclyn isod i helpu drefnu'ch ffordd atom?
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru