skip to main content

Tywyn Dementia Actif Gwynedd: Dosbarth Cadw'n Heini - Iechyd Cymunedol

Diweddariad diwethaf: 30/12/2025
Iechyd Cymunedol Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Dosbarthiadau gweithgarwch corfforol wedi'u lleoli yn y gymuned ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia, teulu, ffrindiau a gofalwyr. Pwrpas y dosbarthiadau yw rhoi cyfle i bobl fod yn egnïol, cael hwyl a chymryd rhan mewn grŵp cymunedol lle mae pawb yn deall ac yn cefnogi ei gilydd. Er bod y dosbarthiadau ar gyfer pobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia, maent hefyd yn hygyrch i bob oedolyn hŷn i helpu i leihau'r risg o ddementia. Mae pob dosbarth yn cael ei oruchwylio gan hyfforddwyr cymwys, gwybodus ac empathig sy'n sicrhau dosbarthiadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn hyblyg. Mae'r dosbarthiadau'n cynnwys ymarferion i wella cryfder, cydbwysedd a chydlynu i helpu gyda gweithgareddau bob dydd. Chwaraeon fel Tenis Bwrdd a Boccia, cerddoriaeth, canu a dawnsio. Gall pob gweithgaredd helpu i leihau gorbryder ac iselder, a gall gynyddu hyder, lles ac ansawdd bywyd cyfranogwyr. Mae pob dosbarth yn gorffen gyda'r cyfle i gael paned o de/coffi a sgwrs.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 60 oed a hŷn.

https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=38734