Darganfyddwch gymorth, gwasanaethau a gwybodaeth ger chi. Defnyddiwch y dewisiadau isod i fanylu'r chwiliad.
Ar hyn o bryd, mae Soundworks, ein gweithdai creu cerddoriaeth yn ystod y tymor ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden y Gorllewin Better Caerdydd. Mae'r sesiynau cerddoriaeth cynhwysol hyn yn annog cyfranogwyr i archwilio synau, rhythmau ac offerynnau mewn gofod anffurfiol, hygyrch a diogel. Yn ystod y sesiynau, bydd cyfranogwyr yn archwilio blociau adeiladu sylfaenol cerddoriaeth gyda chefnogaeth ac anogaeth eu gofalwyr. Mae’r gweithdai hefyd yn cynnig cyfle i ofalwyr ddatblygu sgiliau wrth ddefnyddio cerddoriaeth i adeiladu lefelau rhyngweithio cymdeithasol, sgiliau cyfathrebu a hyder eu cleientiaid.Gofod creadigol difyr, cyfeillgar ac AM DDIM i’w fynychu!Mae dwy sesiwn ar ddydd Mawrth: 11am-12.30pm a 1pm-2:30pm. Cynhelir sesiynau yng Nghanolfan Hamdden y Gorllewin, Trelái, Caerdydd. Mae croeso i aelodau newydd bob amser, cysylltwch â ni drwy e-bost: a2@artsactive.org.uk
Oedolion ag anghenion dysgu a chorfforol ychwanegol a'u gofalwyr.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 18 oed a hŷn.
Nac oes
Anyone
https://artsactive.org.uk/cy/
Western Leisure CentreCaerau LaneCaerdyddCF5 5HJ
Os ydych yn meddwl dod i'n gweld, pam na ddefnyddiwch chi'r teclyn isod i helpu drefnu'ch ffordd atom?
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru