Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae Bywydau a Rennir ar gyfer unrhyw un dros 18 oed sydd:
Eisiau byw mewn cartref teuluol
Angen cymorth i fyw’n annibynnol
Mae pobl yn ymuno â Bywydau a Rennir am sawl rheswm, megis:
Anabledd corfforol
Anabledd dysgu
Awtistiaeth
Anghenion iechyd meddwl
Adferiad o gaethiwed neu salwch
Addasu ar ôl gadael ysbyty
Symud ymlaen o wasanaethau plant
Mae Bywydau a Rennir yn ddewis gwych os nad ydych am fyw ar eich pen eich hun nac mewn lleoliad grŵp mawr. Mae’n eich helpu i fyw fel rhan o deulu a chymuned, gan feithrin perthnasoedd cryf a naturiol.