skip to main content

Gofalwyr Cymru - Darlith Mary Webster - Dydd Mawrth Medi 23ain 5.30 - 8pm - Digwyddiad

Diweddariad diwethaf: 25/07/2025
Digwyddiad
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Ymunwch â ni i nodi 60 mlynedd ers sefydlu Carers UK gyda Darlith Mary Webster yng Nghymru.

Ymhlith y siaradwyr mae:

Y Gwir Anrh. yr Arglwydd Kinnock, cyn Arweinydd y Blaid Lafur a chyn ofalwr di-dâl. (Ymuno o bell).
Y Farwnes Jill Pitkeathley OBE, Is-Lywodraethwraig Carers UK. (Mewn sgwrs â'r Arglwydd Kinnock).
Dr Dan Burrows, Uwch Ddarlithydd, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.
Helen Walker, Prif Weithredwr Carers UK.
Yn cael ei chynnal gan Katie Fenton, Gohebydd Iechyd, ITV Cymru.

Mae’r digwyddiad yn dod â rhestr gyfareddol o siaradwyr at ei gilydd o Gymru a thu hwnt, i drafod pam mae gofal di-dâl yn fater mor bwysig a’r camau y mae’n rhaid i ni eu cymryd fel gwneuthurwyr polisi ac fel cymdeithas i sicrhau cydraddoldeb i ofalwyr di-dâl yng Nghymru a gweddill y DU. Unwaith y bydd y panel wedi rhannu eu syniadau a’u profiadau, bydd cyfle i gael trafodaeth ehangach ar y materion allweddol gyda’r gynulleidfa.

https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=42817