Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae’r rhaglen yn hygyrch i bawb sy’n 18 a throsodd, sy’n teimlo eu bod mewn perygl o’u defnydd cyffuriau / alcohol yn mynd yn broblemus. Gallai hyn gynnwys unrhyw un sydd wedi cael cyfarwyddyd gan y llysoedd i fynd i’r afael â’u camddefnydd sylweddau, unrhyw berson sy’n gadael dadwenwyniad preswyl neu sydd wedi cwblhau dadwenwyniad yn y cartref. Yn bwysicaf oll, unrhyw un sydd wedi cael digon o’r anhrefn sy’n dod o fyw bywyd mewn caethiwed.