skip to main content

Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis Bae Abertawe - Gwasanaethau Adfer Iechyd Meddwl

Diweddariad diwethaf: 25/09/2025
Gwasanaethau Adfer Iechyd Meddwl Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis Adferiad yn gweithio ochr yn ochr gyda’r gwasanaeth ymyrraeth gynnar ar gyfer seicosis y GIG ym Mae Abertawe. Mae’r gwasanaeth wedi ei anelu tuag at y rhai hynny sydd wedi profi eu pwl cyntaf o seicosis ac yn anelu i helpu yr adferiad yn ystod camau cynnar seicosis, sgitsoffrenia a mathau eraill o symptomau ‘schizophreniform’. Mae’r gwasanaeth yn bwysig oherwydd, yn aml, gyda chyflyrau megis seicosis a sgitsoffrenia mae nifer o rwystrau mae rhai sydd wedi cael diagnosis yn eu hwynebu bob dydd. Mae hyn yn cynnwys cyflyrau iechyd meddwl eraill megis iselder, gorbryder, dadreoleiddio emosiynol a llawer mwy. Yn ogystal â’r rhain, mae problemau ffisiolegol megis dirywiad mewn iechyd corfforol, rhoi pwysau ymlaen, a gostyngiad mewn ffitrwydd cardiofasgwlaidd hefyd yn heriau a wynebir.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl rhwng 14 oed ac 35 oed.

https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=43339