Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae gan y rhan fwyaf o bobl sy’n mynychu ein gwasanaeth ymlyniad afiach at rywbeth neu’i gilydd sy’n tueddu i ddiffinio pwy neu beth ydyn nhw ac sydd â’r pwer i benderfynu sut maen nhw’n teimlo ac yn meddwl, fel pryder neu hwyliau isel. Rydym yn darparu cwnsela dwys un i un, gan ddefnyddio amrywiaeth o ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i helpu defnyddwyr i ddatgysylltu. Darperir cymorth parhaus pellach trwy sesiynau therapi grwp, arlein a lleoliad hyblyg.