Darganfyddwch gymorth, gwasanaethau a gwybodaeth ger chi. Defnyddiwch y dewisiadau isod i fanylu'r chwiliad.
Mae Gwasanaethau Gofalwyr Conwy wedi eu dylunio i helpu gofalwyr di-dâl sy’n gofalu am eu hanwyliaid sy’n delio gyda materion iechyd meddwl, defnydd sylweddau, a iechyd corfforol. Ein nod yw i ddarparu cefnogaeth wedi ei bersonoleiddio i bob gofalwr, yn unigol ac mewn sefyllfaoedd grwp, tra’n hyrwyddo eu grymuso a’u hannibyniaeth. Cynigiwn amrywiaeth o fecanweithiau cefnogaeth gan helpu gofalwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth, er mwyn iddynt deimlo’n fwy grymus ac yn gallu diwallu anghenion eu hanwyliaid tra hefyd yn cynnal eu hannibyniaeth a’u llesiant eu hunain.Mae ein tîm yn addasu lefel y gefnogaeth yn unol â galluoedd a chyfforddusrwydd pob gofalwr, gan sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt ar gyfer eu rôl gofalu.
Cynigiwn gefnogaeth i oedolion sy’n ofalwyr, yn ogystal â ffrindiau a theulu y rhai sy’n cefnogi unigolion 18 oed a hŷn gyda materion iechyd meddwl ac / neu ddefnydd sylweddau.
Nac oes
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru