Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Rydym yn cefnogi unigolion 18 oed a throsodd sy’n byw yn Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint neu Wrecsam, sydd angen cefnogaeth gyda’u hiechyd meddwl. Mae ein partneriaeth yn darparu ymyrraethau therapiwtig tymor-byr effeithiol ar gyfer pobl sy’n wynebu anawsterau iechyd meddwl cyffredin a digwyddiadau bywyd heriol a allai fod yn effeithio ar eu llesiant emosiynol.