Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Cynigiwn gefnogaeth i unrhyw oedolyn sy’n ofalwr di-dâl sy’n gofalu am anwylyn, aelod o’r teulu, neu ffrind a effeithir gan salwch meddwl.
Cynigiwn gwrs 12 wythnos o gefnogaeth un i un ble rydym yn anelu i wella llesiant cyffredinol y gofalwr drwy ymyrraethau penodol. Mae hyn yn cynnwys:
Gwybodaeth a chyngor
Cefnogaeth Emosiynol
Arwyddbostio a chyflwyniadau i wasanaethau cefnogaeth penodol
Mynediad i Gyngor Iechyd Meddwl ac Arian Adferiad
Hefyd, drwy ein grwpiau misol, rydym yn cyflwyno cefnogaeth cymheiriaid sy’n meithrin ymdeimlad o brofiad â rennir ac yn darparu cyd-gefnogaeth. Ar y cyfan, drwy ein cefnogaeth, rydym yn gallu helpu gofalwyr di-dâl i deimlo’n llai ynysig ac unig, a darparu cyfleoedd ar gyfer sesiynau ac addysg sy’n ffocysu ar lesiant.