Darganfyddwch gymorth, gwasanaethau a gwybodaeth ger chi. Defnyddiwch y dewisiadau isod i fanylu'r chwiliad.
Mae ein llwybr Pasg ar gael rhwng 21 Mawrth a 12 Ebrill. Gwnewch eich ffordd ar hyd y llwybr a chanfod gweithgareddau ar gyfer y teulu cyfan, wedi’u hysbrydoli gan 5.5 acer o erddi hyfryd, cyn casglu eich ŵy. Dilynwch y map a chwblhewch bob un o’r 10 gorsaf weithgareddau sydd wedi’u hysbrydoli gan flodau o’r ardd cyn casglu eich ŵy. Heriwch eich ffrindiau a’ch teulu mewn ras clychau’r gog gerddorol - canwch y clychau wrth i chi fynd ati i geisio curo’r amserydd. Darganfyddwch pwy sy’n gallu codi tŵr mor uchel â’r wistaria yng nghowrt y castell heb iddo droi drosodd, neu profwch eich cof gyda gêm o barau cyfatebol ‘N’ad Fi’n Angof. Y pris yw £3.50 fesul llwybr, sy’n cynnwys taflen llwybr y Pasg, clustiau cwningen, ac ŵy siocled cynnyrch llaeth neu fegan a Rhydd Rhag*.*Yn addas i bobl ag alergeddau llaeth, wyau, glwten, cnau mwnci a choed.
Croeso i bawb.Codir tâl mynediad arferol - mynediad am ddim i aelodau ac i blant dan 5 oed.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.
Oes - £3.50 y person.Codir tâl mynediad arferol - mynediad am ddim i aelodau ac i blant dan 5 oed.
https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/chirk-castle/dyddiau-ir-teulu
National TrustChirk CastleChirkWrecsamLL14 5AF
Os ydych yn meddwl dod i'n gweld, pam na ddefnyddiwch chi'r teclyn isod i helpu drefnu'ch ffordd atom?
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru