skip to main content

AMR Action UK. Cymorth a chyfleoedd i'r rhai yr effeithir arnynt gan ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) - Iechyd Cymunedol

Diweddariad diwethaf: 20/03/2026
Iechyd Cymunedol
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

A ydych chi wedi profi haint a oedd yn anodd ei drin? A oedd yn rhaid i chi gael sawl meddyginiaeth a chyffuriau, boed yn yr ysbyty neu gartref, lle nad oedd gennych fawr o gwybodaeth a / neu sgileffeithiau?

Efallai eich bod wedi cael haint ag ymwrthedd (ymwrthedd gwrthficrobaidd – AMR).

Mae micro-organebau fel bacteria a firysau yn gynyddol yn datblygu ymwrthedd i’r meddyginiaethau sydd ar gael i ni. Mae hyn, weithiau, oherwydd meddyginiaethau annigonol yn cael eu rhoi yn y lle cyntaf neu lwybrau cynghori nad ydynt yn cael eu dilyn gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae yna orddefnydd o wrthfiotigau ym maes gofal iechyd a'n diwydiannau.

Yn AMR Action UK, rydym yn rhoi cefnogaeth i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio yn y gorffennol, sy’n dioddef haint sydd ag ymwrthedd ar hyn o bryd, neu sy'n poeni am heintiau yn y dyfodol. Mae gennym hefyd lawer o gyfleoedd i’r rhai sydd â phrofiad byw (gyda thâl) i gymryd rhan a chyfrannu at newid ystyrlon.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.

https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=44569