skip to main content

Hwb Sense Dinbych - Cyfleoedd Dydd i Oedolion

Diweddariad diwethaf: 19/05/2026
Cyfleoedd Dydd i Oedolion Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg Gall yr adnodd yma defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Byddwn yma i unrhyw un sydd angen cymorth gyda nam ar y clyw, nam ar y golwg, anabledd corfforol, awtistiaeth ac anableddau dysgu, ni waeth beth yw eich oedran. Mae'r gwasanaeth hwn yn derbyn pobl o Sir Ddinbych, Conwy, Sir y Fflint a Wrecsam.

Nid dim ond lle i dreulio’ch diwrnod yw hyb Sense Dinbych – mae’n fan lle gallwch ddysgu sgiliau newydd, mynegi eich hun a rhoi cynnig ar bob math o weithgareddau newydd.

Mae ein hymagwedd synhwyraidd arbennig yn sicrhau eich bod yn gallu cyfathrebu, archwilio’r byd a mynegi eich hun mewn ffordd sy’n addas i chi. A byddwch yn cael eich cefnogi gan staff medrus a chyfeillgar i wneud eich dewisiadau eich hun.

Bydd gennych eich cynllun gofal a chymorth personol eich hun, yn seiliedig ar eich dewisiadau a’ch diddordebau. A gallwch fwynhau cymysgedd o weithgareddau – un-i-un neu gyda phobl eraill – yn hyb Sense Dinbych ac allan yn y gymuned.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 18 oed a hŷn.

https://www.dewis.cymru/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=45134